map

Pwy ydym ni?

Ariennir Porth Gwyrdd gan Gronfeydd Segur, caiff ei reoli gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a'i arwain gan Foothold Cymru mewn partneriaeth ag Antur Cymru, PLANED, a Menter Gorllewin Sir Gâr.

Gyda'n gilydd rydym yn cefnogi pobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol — gan gynnwys rheiny sydd ag anableddau neu o gefndiroedd ethnig lleiafrifol — i gael mynediad at hyfforddiant, profiad gwaith, a gyrfaoedd yn economi werdd Cymru.

Mae ein tîm ymroddedig yn darparu arweiniad a chefnogaeth i bobl ifanc a chyflogwyr ledled Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys.

book

Ein gwybodaeth a’n profiad

Mae gan ein sefydliadau wybodaeth a phrofiad gyfunol eang o ddatblygu ieuenctid, datblygu cymunedol, a chefnogaeth busnes, gan wneud Porth Gwyrdd yn adnodd a gwasanaeth gwerthfawr i'r bobl ifanc a'r busnesau yr ydym yn eu cefnogi.

Lle rydym yn gweithio

Rydym yn cefnogi pobl ifanc 16–30 oed a chyflogwyr ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Pobl Ifanc: Rydym yn helpu pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol i ennill hyfforddiant a phrofiad mewn swyddi gwyrdd fydd yn rhoi boddhad iddynt ac yn werthfawr i gyflogwyr. 

Cyflogwyr: Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chyflogwyr i’w helpu nhw i ddod o hyd i bobl ifanc brwdfrydig, awyddus o gefndiroedd amrywiol i ymuno â’u gweithlu. Rydym hefyd yn darparu cymorth i helpu busnesau i drawsnewid i arferion mwy amgylcheddol gynaliadwy. 

  • Sir Gâr

  • Ceredigion

  • Sir Benfro

  • Powys

Cymryd rhan

Byddwch yn rhan o’r Porth Gwyrdd

Baseline Form

Kitchen Assistant
partner and funder logos