Tyfwch eich busnes tra'n cryfhau eich cymuned
Mae Porth Gwyrdd yn cefnogi cyflogwyr ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru i gysylltu â phobl ifanc, sydd ag anabledd neu sydd o gymuned ethnig leiafrifol, sydd am ddysgu, cyfrannu, a datblygu, gan helpu busnesau i adeiladu amrywiaeth, cynaliadwyedd, a sgiliau'r dyfodol yn eu gweithlu. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar gyfleoedd go iawn, fel interniaethau a lleoliadau gwaith am dâl, sy'n rhoi profiad ystyrlon i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed tra'n ychwanegu gwerth i weithrediadau o ddydd i ddydd.
Cefnogaeth i gyflogwyr
Mae Porth Gwyrdd yn cynnig gofod ar gyfer sgyrsiau syml, wedi'u harwain gan gyflogwyr am recriwtio, cadw staff, llesiant a symud tuag at ffyrdd gwyrddach o weithio, ac yna'n helpu i'w troi'n gamau nesaf ymarferol ar gyfer eich sefydliad.
Mae'r gefnogaeth i gyflogwyr a phobl ifanc yn uniongyrchol ac wedi'i teilwra, gan weithio gyda phob sefydliad i brofi a gweithredu dulliau sy'n gweithio i'ch staff, eich busnes, a'r amgylchedd.
Sut mae Porth Gwyrdd yn cefnogi cyflogwyr
Mae Porth Gwyrdd yn helpu cyflogwyr i greu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc trwy interniaethau di-dâl a lleoliadau gwaith am dâl, gan ei gwneud yn haws ac yn llai o risg i fusnesau gymryd rhan tra'n ychwanegu gwerth go iawn i weithrediadau o ddydd i ddydd.
Mae'r cymorth yn cynnwys:
-
-
Gwneud recriwtio cynhwysol yn syml
Cymorth busnes penodol i gyrraedd ystod ehangach, mwy amrywiol o ymgeiswyr. -
Gweithleoedd sy’n barod ar gyfer gwait
Asesiadau byr i nodi rhwystrau a rhoi addasiadau syml, cost-effeithiol ar waith. -
Hyfforddiant EDI ymarferol
Yn seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn y mae rheolwyr yn eu hwynebu wrth oruchwylio a chefnogi pobl ifanc. -
Hyfforddwyr gwaith penodol
Sgyrsiau rheolaidd gyda chi a'r person ifanc i ddatrys problemau'n gynnar a chadw cynnydd ar y trywydd cywir. -
Manteisio ar gymorth ychwanegol
Cysylltiadau â rhaglenni ehangach, gwasanaethau arbenigol, i gryfhau'r profiad i'r person ifanc a'r cyflogwr. -
Cymorth gyda chostau
Cyngor ar gymorth ariannol, gan gynnwys mynediad at grantiau cyflogwr Porth Gwyrdd lle mae'n gymwys.
Beth yw swyddi gwyrdd?
Rolau penodol yw swyddi gwyrdd sy'n lleihau allyriadau carbon, yn diogelu ac yn adfer natur, neu'n helpu cymunedau i addasu i newid hinsawdd. Gall y swyddi hyn fod yn rhai ymarferol, technegol, proffesiynol, neu reoli, ac maent yn bodoli ar draws sawl sector.
Gall swyddi gwyrdd gynnwys rolau sy'n:
- Dylunio, gwneud, neu ddarparu cynnyrch a gwasanaethau cynaliadwy, megis cludiant isel ei garbon, tai sy’n effeithlon o ran ynni, neu becynnu sy'n lleihau gwastraff.
- Gwella sut mae sefydliadau'n gweithredu fel bod gwaith dydd-i-ddydd yn defnyddio llai o adnoddau, yn creu llai o wastraff, ac yn lleihau llygredd.
- Gosod, gweithredu, neu gynnal technolegau a systemau gwyrdd, er enghraifft mewn ynni adnewyddadwy, prosiectau cadwraeth, cyfleusterau ailgylchu, neu seilwaith gwyrdd.
- Defnyddio sgiliau gwyrdd i leihau effaith amgylcheddol mewn unrhyw swydd, megis rheoli defnydd ynni, lleihau gwastraff, diogelu bioamrywiaeth, neu ddefnyddio technolegau glân.
Mae llawer o swyddi gwyrdd eisoes yn bod o fewn sectorau cyfarwydd fel adeiladu, cludiant, gweithgynhyrchu, iechyd, a manwerthu, ac mae eu nifer yn cynyddu wrth i gyflogwyr ymateb i ddisgwyliadau a rheoliadau amgylcheddol newydd.
Pam mae cyflogwyr yn cymryd rhan
Mae cyflogwyr yn cymryd rhan gan ei fod yn eu helpu i:
- Ddenu talent ffres o ystod ehangach, mwy amrywiol o bobl ifanc brwdfrydig.
- Llenwi bylchau sgiliau a chreu llwybr o weithwyr at y dyfodol.
Gwella cadw staff trwy greu gweithle mwy cefnogol a chynhwysol. - Cynyddu cynhyrchiant drwy baru swyddi, hyfforddi, a chefnogaeth dda yn y gwaith.
- Lleihau risgiau o ran cyfraith cydraddoldeb, gwahaniaethu, a chyflogaeth.
- Cryfhau eu henw da fel cyflogwr sy’n gymdeithasol gyfrifol â’u sylw ar y gymuned.
Mae partneriaeth gyda Porth Gwyrdd yn rhoi cefnogaeth ymarferol, wedi’i teilwra i fusnesau sydd o fudd i’w pobl a’u perfformiad.
Ydw i'n gyflogwr gwyrdd?
Anfonwch eich manylion atom a byddwn yn cysylltu â chi!