10 Medi 2026

A yw’r bobl ifanc rydych yn eu cefnogi yn gwybod beth sy’n bosibl ym maes gyrfaoedd gwyrdd Cymru?

workshops, young people, green skills, green jobs

Mae Porth Gwyrdd yn helpu pobl ifanc 16–30 oed ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys i ddarganfod cyfleoedd gyrfa cyffrous sy’n dod i’r amlwg yn sector gwyrdd cynyddol Cymru.

Mae ein gweithdai ymarferol, difyr a rhad ac am ddim yn cyflwyno pobl ifanc i yrfaoedd gwyrdd, y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt a’r gwahanol lwybrau at gyflogaeth — i gyd wedi’u teilwra i anghenion a diddordebau eich ysgol, clwb neu grŵp.

Rydym yn arbennig o awyddus i gyrraedd pobl ifanc a all wynebu rhwystrau i gyflogaeth, gan gynnwys pobl ifanc ag anableddau, pobl ifanc niwrowahanol a phobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol, gan eu helpu i weld y gallai gyrfa werdd fod yn addas iddynt hwy.

🌱 A allwn ni ddod â Gweithdy Gyrfaoedd Gwyrdd i’ch sefydliad?

Cysylltwch â ni i drefnu sesiwn neu i gael gwybod mwy am sut y gall Porth Gwyrdd gefnogi’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw.

I archebu, cysylltwch â Huw ar:

huwevans@mgsg.cymru

01239 712934 I 07375 956235