Treuliodd Swyddog Ymgysylltu Porth Gwyrdd, Cari Davies, y diwrnod yn nigwyddiad #WhatNext Careers Wales yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth ddydd Mawrth, 27ain o Ionawr. Diolch i’r holl ddysgwyr a darparwyr addysg a alwodd heibio i gael trafodaethau gwych ac ymgysylltiol am y cyfleoedd cyffrous ar gyfer Gyrfaoedd Gwyrdd yn y rhanbarth.
Rhannodd dysgwyr ifanc eu syniadau am yr hyn a fyddai’n ei gwneud yn haws iddynt sefydlu gyrfa yn y sector gwyrdd sy’n tyfu’n gyflym. Roedd llawer o’r bobl ifanc yn teimlo’n angerddol am gyfrannu’n gadarnhaol at yr amgylchedd drwy eu gyrfaoedd. Edrychwn ymlaen at barhau â’r trafodaethau ystyrlon hyn dros y misoedd nesaf, er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl ifanc â phosibl yn ymwybodol o’r cyfleoedd cyffrous y gall Porth Gwyrdd / Green Gateway eu cynnig.