Fe wnaethon ni ymweld â’r tîm ffantastig yn Bluestone Wales i sgwrsio am sut i fod yn gynaliadwy a pham mae buddsdoddi mewn gweithlu ifanc ac amrywiol yn hollbwysig.
Fe gwrddon ni â 3 unigolyn gwych a wnaeth siarad yn angerddol am eu dyletswyddau a’r cyfleoedd maent wedi derbyn. Fe wnaethon nhw rannu sut roedd Bluestone wedi eu cefnogi i oresgyrn sialensau, adeiladu hyder, a datblygu eu sgiliau – yn eu helpu i ddod yn aelodau gwerthfawr o’r tîm.
Ewch i gael paned a chymryd 5 munud i wrando ar eu storïau yn eu geiriau nhw. Mae’n ein atgoffa ni pan fod busnesau yn buddsoddi mewn pobl, mae pawb yn manteisio.