06 Ionawr 2026

Porth Gwyrdd: Cyfle Grant Cyflogaeth

Cyflogwch a Chefnogwch Bobl Ifanc i mewn i Yrfaoedd Gwyrdd! 

Ydych chi am dyfu eich tîm, gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, a chyfrannu at ddyfodol gwyrddach? 

Mae Porth Gwyrdd yn cynnig cyfle i gyflogwyr yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru i gyflogi pobl ifanc 16–30 oed sydd ag anableddau neu sydd o gymunedau ethnig amrywiol, gyda chyllid a chefnogaeth i’w gwneud hi'n hawdd.


Pwy all Wneud Cais? 

Croesawn gyflogwyr sydd yn: 

• Darparu gweithleoedd o ansawdd uchel, cynhwysol
• Gallu cynnig rolau ystyrlon sy'n cyfrannu at ganlyniadau gwyrdd, cynaliadwy 
• Ymroddedig i gefnogi pobl ifanc i ddysgu, tyfu, a llwyddo 
• Eisiau cael effaith bositif ar eu cymuned leol


Beth sydd ar Gynnig? 


•    Cefnogaeth ariannol: Grant cyflogaeth i’ch helpu chi i gyflogi pobl ifanc
 •   Arweiniad recriwtio: Cyngor am ddim gan ein Rheolwr Ymgysylltu a Chefnogi Cyflogwyr 
•    Cefnogaeth barhaus: Hyfforddiant swyddi i helpu recriwtiaid newydd i setlo a ffynnu 
•    Datblygu sgiliau: Helpwch aelod newydd eich tîm i ennill sgiliau gwyrdd gwerthfawr

Manylion Cais 

• Dyddiad cau: Dydd Gwener 20 Mawrth 2026 
• Caiff ceisiadau eu hystyried wrth iddynt ddod i law, felly rhowch wybod os oes angen recriwtio brys arnoch! 
• Cwblhewch y ffurflen gais a darparu'r wybodaeth ofynnol am eich rôl, eich tîm, a'ch sefydliad. 

Cyflwynwch eich cais neu gofynnwch am arweiniad:


[Insert email / website link / phone number]