11 Ebrill 2025

Mwy na £3 Miliwn Wedi'i Ddyfarnu i Foothold Cymru i Rymuso Pobl Ifanc Gorllewin Cymru i Gael Mynediad at Yrfaoedd Gwyrdd

Mae Foothold Cymru, y sefydliad arweiniol mewn partneriaeth ag Antur Cymru, PLANED, a Menter Gorllewin Sir Gâr yn falch o gyhoeddi dyfarnu £3,153,491 o Gronfeydd Segur gaiff eu rheoli gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Bydd y cyllid trawsnewidiol hwn yn cefnogi pobl ifanc (16 i 30 oed) ag anableddau a'r rheiny o gymunedau ethnig lleiafrifol ledled Powys, Ceredigion, Sir Gâr, a Sir Benfro, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous yn yr economi wyrdd sy'n tyfu'n gyflym.

Rhannodd Mike Theodoulou, Prif Swyddog Gweithredol Foothold Cymru, ei frwdfrydedd:

“Mae’r cyllid hwn yn gam hanfodol tuag at chwalu’r rhwystrau sy’n atal cymaint o bobl ifanc rhag cael mynediad i yrfaoedd gwyrdd. Gyda'n partneriaid, rydym yn ymrwymo i greu llwybrau clir ac hygyrch i'r sector ffyniannus hwn—un sy'n hanfodol i ymladd newid hinsawdd a chreu dyfodol cynaliadwy. 

Mae'r fenter hon yn ymwneud â mwy na dim ond cyflogaeth, mae'n ymwneud â grymuso pobl ifanc i reoli eu dyfodol tra'n cyfrannu at ddatrysiadau i heriau byd-eang fel newid hinsawdd. Drwy eu cyflenwi â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y sector hwn, rydym yn buddsoddi mewn cenhedlaeth o arweinwyr newid a fydd yn arwain Cymru tuag at economi wyrddach, fwy cynhwysol.”

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Foothold Cymru wedi datgelu bod pobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gydag anableddau yn wynebu heriau sylweddol wrth ymwneud â'r economi werdd. Un rhwystr allweddol a nodwyd yw diffyg modelau rôl amlwg o fewn y sector, sy'n ei gwneud hi’n anodd i'r grwpiau hyn ddychmygu eu hunain mewn rolau o'r fath. Yn ogystal, mae llawer o bobl ifanc yn anymwybodol o’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yn yr economi werdd—yn amrywio o beirianneg ynni adnewyddadwy i rolau mewn mentrau dim gwastraff a chynghori amgylcheddol.

Bydd prosiect Porth Gwyrdd yn mynd i'r afael â'r heriau hyn dros y pum mlynedd nesaf trwy: 

• Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa gwyrdd trwy allgymorth ac ymgysylltu penodol. 

• Darparu cefnogaeth, hyfforddiant, lleoliadau profiad gwaith am dâl a di-dâl wedi'u teilwra, i adeiladu hyder a sgiliau. 

• Gweithio'n agos gyda chyflogwyr i sicrhau arferion cynhwysol ac i greu cyfleoedd swyddi hygyrch i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae'r grant o bron £3.2 miliwn yn rhan o raglen Camau Cynaliadwy Cymru, sydd â'r nod o leihau allyriadau carbon, adfer natur, ac addasu i newid hinsawdd tra'n meithrin amrywiaeth o fewn y gweithlu. Mae prosiectau fel hyn nid yn unig yn creu cyfleoedd i unigolion, ond hefyd yn cryfhau cymunedau ledled Cymru trwy adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy a theg i bawb. 

Mae Foothold Cymru a'i bartneriaid yn benderfynol o sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yn cael ei adael ar ôl wrth i Gymru drawsnewid tuag at economi wyrddach. Bydd y fenter hon yn gadael etifeddiaeth o rymuso, cynaliadwyedd, a chyfleoedd ledled y rhanbarth gan helpu Cymru i arwain y ffordd wrth adeiladu dyfodol mwy disglair i genedlaethau i ddod. 


CRONFA GYMUNEDOL Y LOTERI GENEDLAETHOL: DATGANIAD I'R WASG