Mae Porth Gwyrdd wedi bod allan ac o gwmpas dros yr haf, gan feithrin cysylltiadau newydd, cryfhau partneriaethau a dal i fyny â hen ffrindiau ledled Gorllewin Cymru.
Bu ein Hyfforddwr Gwaith, Vicki, yn cynrychioli Porth Gwyrdd yn Sioe Sir Benfro, lle cafodd gyfle i gwrdd â Cris Tomos, Prif Swyddog Gweithredol PLANED, un o sefydliadau partner Porth Gwyrdd.
Manteisiodd Vicki a Cris ar y cyfle i drafod sut mae Porth Gwyrdd yn cefnogi pobl ifanc i gymryd eu camau cyntaf ar lwybr gyrfa werdd, gan eu helpu i ennill profiad gwerthfawr, magu hyder a darganfod cyfleoedd newydd yn y sector gyrfaoedd gwyrdd sy’n tyfu.
Gwyliwch eu sgwrs lawn isod 👇
